| |
Croeso i dudalennau
gwe Partneriaeth Cydraddoldeb LCC Gogledd Cymru (NWREP)
Pwy ydym ni?
Partneriaeth yw NWREP o Gymdeithasau Tai o Ogledd
Cymru, sef
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn (aelod o Grwp Tai Pennaf),
Cymdeithas Tai Clwyd, Cymdeithas
Tai Eryri, Cymdeithas Tai
Gogledd Cymru a
Cymdeithas Tai Wales & West. Mae Fforwm Cydraddoldeb Hiliol
Gogledd Cymru (NWREN) hefyd yn aelod o’r Bartneriaeth.
Gweithio mewn partneriaeth
Mae aelodau’r Bartneriaeth wedi
ymuno â’i gilydd er mwyn datblygu Strategaeth
Dai i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) Ranbarthol,
Cynlluniau Gweithredu Hil Cyffredin, rhaglen hyfforddi
ar y cyd i’r staff, Aelodau’r Byrddau a
phreswylwyr, ac ymagwedd ar y cyd tuag at ymdrin â’r
problemau gwahaniaethu ac aflonyddu ar sail hil.
Dyluniwyd y wefan hon i fod yn borth
i wybodaeth ar gyfer holl waith NWREP,
|
|
yn y presennol a’r gorffennol, yn ogystal â bod
yn un o’r prif ddulliau o ymgynghori â’r
cymunedau BME yng Ngogledd Cymru ar bolisïau a strategaethau.
Beth ydym ni yn ei wneud?
Mae’r aelodau o’r Bartneriaeth sy’n
Gymdeithasau Tai oll yn cynnig tai cost isel ar rent neu i’w
prynu yng Ngogledd Cymru, sy’n gweithredu ar sail ‘nid
er elw’. Corff gwirfoddol yw Fforwm Cydraddoldeb Hiliol
Gogledd Cymru, sy’n dwyn at ei gilydd bobl sydd â diddordeb
mewn materion yn ymwneud â chydraddoldeb yng Ngogledd
Cymru.
|